student at an open day
Student at an open day

I Deuluoedd

Hapusrwydd a diogelwch ein plant yw'r flaenoriaeth bob amser, ond weithiau nid yw'n hawdd gwybod sut i'w helpu i gyrraedd yno. Fel rhiant, gwarchodwr neu gefnogwr, rydych mewn sefyllfa arbennig i gefnogi eich plentyn wrth iddynt wneud penderfyniadau am eu haddysg. 

Yma yn Rhydychen, rydym yn gwerthfawrogi teuluoedd ein myfyrwyr a darpar fyfyrwyr ac rydym eisiau i chi gael yr holl wybodaeth sydd ei angen arnoch er mwyn teimlo'n hyderus yn eich rôl gefnogol hollbwysig. Rydym wedi casglu cyngor ac adnoddau I Deuluoedd i helpu annog eich plentyn i edrych i'r dyfodol ac ystyried goblygiadau eu dewisiadau. 

Mae Oxford Cymru yn cydnabod nad oes gan bob ymgeisydd gefnogaeth rhiant neu warchodwr. Er enghraifft, efallai eich bod yn ymgeisydd hŷn neu'n athro/cynghorwr sydd yn arwain myfyriwr sydd yn astudio heb gefnogaeth teulu. Byddwch yn ymwybodol bod gan y Brifysgol raglen gefnogol ardderchog ar gyfer myfyrwyr wedi eu dieithrio.

Darganfyddwch fwy isod am y gweithgareddau yr ydym yn eu cynnal yn eich ardalyn Rhydychen ac ar-lein.

|Hafan|