Aerial view of Telford's Suspension Bridge
Aerial view of Telford's Suspension Bridge

Ar hyn o bryd, mae myfyrwyr o Gymru wedi eu tangynrychioli yn Rhydychen. Er mwyn helpu i newid hyn rydym yn lansio Oxford Cymru, rhaglen estyn allan cymunedol estynedig, sy'n cynnig cefnogaeth lleol ac wedi'i deilwra i fyfyrwyr o oedranau cymysg, eu teuluoedd a'u athrawon.

Mae tri coleg yn Rhydychen, Coleg yr Iesu, Coleg Newydd a Choleg St Catherine, wedi ymuno â'i gilydd i arwain ar a gweithredu'r rhaglen newydd, gyffrous hon. Wrth weithio gyda'i gilydd, bydd y colegau hyn yn sicrhau bod Prifysgol Rhydychen, am y tro cyntaf, yn medru cynnig rhaglen estyn allan cydlynol sy'n gofalu am Gymru benbaladr. Mae ein amcanion yn uchelgeisiol ac wedi’u rhannu’n ddau faes allweddol:

Gwaith Allgymorth:

  1. Sicrhau bod cyfran y gwaith allgymorth a ddarperir gan y Brifysgol yn adlewyrchu cyfran yr ysgolion ym mhob rhanbarth yng Nghymru erbyn 2024/25.
  2. Cynyddu’r gwaith allgymorth yng Nghanolbarth, Gogledd-orllewin a Gorllewin Cymru i sicrhau ei fod yn adlewyrchu cyfran yr holl ysgolion yn y rhanbarthau hyn erbyn 2024/25.
  3. Creu ymgyrch farchnata ddigidol ac mewn print i gyrraedd holl ysgolion uwchradd Cymru erbyn 2023, gan helpu i godi proffil Prifysgol Rhydychen yng Nghymru.

Ceisiadau:

  1. Cynyddu cyfradd twf ceisiadau gan fyfyrwyr ysgolion gwladol Cymru i 5% y flwyddyn erbyn 2024/25.
  2. Cynyddu ceisiadau o Dde-orllewin a Gorllewin Cymru fel eu bod yn cyfrif am o leiaf 25% o gyfanswm y ceisiadau o Gymru erbyn 2024/25.

Yr Awdurdodau Lleol yw - Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen, Bro Morgannwg, Wrecsam.

Porwch y bocsys isod i ddarganfod yr hyn yr ydym yn ei wneud ar gyfer Myfyrwyr, Athrawon a Theuluoedd yn Rhydychen, yn eich Ardal ac Ar-lein.