Teachers in Oxford
Teachers in Oxford

I Athrawon

Gall dewis ble i fynd i brifysgol fod yn benderfyniad sy'n newid bywyd. Rydym yn werthfawrogol iawn o'r rôl y mae athrawon a chynghorwyr gyrfa yn ei chwarae wrth annog myfyrwyr i ystyried eu opsiynau a gwneud eu penderfyniadau cytbwys sy'n seiliedig ar wybodaeth a phrofiad.

I gefnogi athrawon, mae'r Brifysgol yn cynnig ystod o weithgareddau Datblygiad Proffesiynol a Dysgu parhaol, gyda rhai ohonynt yn drwyddedig. Mae'r DPD ar gyfer athrawon dysgwyr 16-18 oed yn ymwneud â darparu gwybodaeth am y broses fynediad, a chefnogi myfyrwyr sy'n ymgeisio i Rydychen. Rydym yn gweithio yn fwyfwy gydag athrawon Cyfnod Allweddol 3 a 4, gan helpu gyda datblygu adnoddau cefnogol i'r cwriwcwlwm a fydd yn fuddiol i ystod eang o ddysgwyr. Gallwch ddarganfod mwy am DPDau a digwyddiadau eraill ar gyfer athrawon yma.

Rydym hefyd yn creu Hybiau Ysgolion a Phencampwyr Athrawon, a gallwch ddarganfod mwy am hynny o fewn yr adran Yn Eich Ardal isod.

Darganfyddwch fwy isod am y gweithgareddau yr ydym yn eu cynnal yn eich ardalyn Rhydychen ac ar-lein

Tiwtorial yng Ngholeg Newydd. Llun: John Cairns Photography