Mae ystod eang o gyfleon i fyfyrwyr ac athrawon o Gymru i ymweld â Rhydychen. Gweler y calendr digwyddiadau am ddigwyddiadau yn Rhydychen. Noder y cynhelir rhai o'r digwyddiadau hyn yn ystod amser ysgol ac felly dylid eu harchebu gan eich ysgol.
I Ddysgwyr.

I Ddysgwyr

Diwrnodau Agored - Blynyddoedd 11-13

Cynhelir tri Diwrnod Agored gan y Brifysgol, dau ym mis Mehefin neu Orffennaf ac un ym mis Medi, pob blwyddyn. Bydd pob coleg ac adran yn agored ar gyfer darpar ymgeiswyr ar Ddiwrnodau Agored Prifysgol Rhydychen. Cynhaliwyd y Diwrnodau Agored Rhithiol cyntaf gan y Brifysgol ym mis Gorffennaf a Medi 2020, ac mae rhan helaeth o'r wybodaeth a ranwyd yn parhau i fod ar gael drwy'r gwefanau Diwrnodau Agored Rhithiol.

Nid oes rhaid i fyfyrwyr gofrestru o flaen llaw ar gyfer ein diwrnodau agored rhithiol na wyneb-yn-wyneb. Bydd gwybodaeth am drefniadau Diwrnodau Agored 2022 yn cael eu darparu yn nes at yr amser.

Cefnogaeth Teithio i Ddiwrnodau Agored 

Yn 2022 mae Coleg yr Iesu yn gobeithio treialu cynllun bwrseriaeth bychan i helpu i gefnogi myfyrwyr o'r cefndiroedd mwyaf difreintriedig gyda chostau teithio i Ddiwrnod Agored. Bydd manylion pellach yn cael eu ychwanegu yma os a phan y bydd ar gael.

Llety ar Ddiwrnodau Agored - Blynyddoedd 11-13 

Yn achlysurol, gallwn gynnig llety dros nos am ddim ar gyfer grwpiau o fyfyrwyr o ysgolion gwladol yng Nghymru sydd yn mynychu Diwrnodau Agored Prifysgol Rhydychen ym mis Gorffennaf. Mae'n rhaid i grwpiau ysgolion fod yng nghwmni athro neu athrawes. Mae telerau amodol. Dylai eich athro neu athrawes gysylltu â ni i ddechrau i weld os oes llety ar gael.

Ymweliadau Ysgol i Rydychen - pob blwyddyn ysgol 

Rydym yn croesawu ymweliadau o ysgolion gwladol sydd o fewn rhanbarth Oxford Cymru ac yn cynnig profiadau megis Diwrnodau Blasu ar gyfer pob oedran. Mae hyn yn cynnwys cyflwyniad i Rydychen, cyfarfod ein myfyrwyr israddedig presennol, taith o'r Ddinas, sgwrs academaidd neu ymweliad ag amgueddfa a gweithdy datblygu sgiliau neu arweiniad gyda'r broses mynediad. Mae ein colegau yn hapus iawn i addasu ymweliadau i ateb anghenion unrhyw grŵp o ddisgyblion. Trefnir yr ymweliadau hyn drwy ysgolion, felly os oes gennych ddiddordeb, gofynnwch i'ch athro neu athrawes gysylltu â ni.

UNIQ Rhydychen - Blwyddyn 12 (ymgeisio rhwng Tachwedd-Ionawr) 

UNIQ yw rhaglen estyn allan preswyl mwyaf Prifysgol Rhydychen ar gyfer dysgwyr ym mlwyddyn gyntaf eu addysg bellach, sydd yn mynychu ysgolion neu golegau gwladol yn y DU. Mae gan UNIQ record llwyddiannus yn helpu dysgwyr i wneud ceisiadau llwyddiannus i Rydychen - eleni yn unig cafodd 250 o ddysgwyr UNIQ gynnig lle gan y Brifysgol.

Mae dysgwyr yn ymgeisio i UNIQ rhwng mis Rhagfyr a Ionawr a gallant gael eu dewis ar gyfer naill ai UNIQ Digidol neu UNIQ preswyl. Mae UNIQ preswyl yn cymryd lle yn y Gwanwyn a'r Haf ac yn cynnig blas o brofiad myfyrwyr israddedig Rhydychen. Byddwch yn byw yn un o golegau Rhydychen am wythnos, yn mynychu darlithoedd a seminarau yn y maes o'ch dewis, ac yn derbyn cyngor arbenigol ar y broses ymgeisio a chyfweliadau yn Rhydychen. Mae UNIQ yn rhad ac am ddim ac mae costau teithio wedi eu darparu hefyd.

Mae UNIQ Digidol yn darparu gwybodaeth ac arweiniad cynhwysfawr ar y broses ymgeisio i brifysgolion, ac yn anleu i gynnig darlun realistig o fywyd myfyrwyr yn Rhydychen drwy fideos, gweithgareddau a chwisiau. Mae'r platfform yn cynnig amrywiaeth o fforymau ble gallwch drafod testunau academaidd a chymdeithasol. Am fwy o wybodaeth (gan gynnwys yr arlwy digidol ar gyfer gweithgareddau preswyl) gweler gwefan UNIQ.

Target Oxbridge - Blwyddyn 12 (ymgeisio ym mis Hydref) 

Mae Target Oxbridge yn raglen sydd am ddim ac yn anelu i helpu myfyrwyr du Affricanaidd a Charibïaidd a myfyrwyr o dras gymysg gyda threftadaeth du Affricanaidd a Charibïaidd i gynyddu eu siawns i gael eu derbyn i Brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt (a elwir gyda'i gilydd yn Rhydgrawnt). Mae'r rhaglen yn cynnwys cyfnod preswyl yn Rhydychen, mentora i ddysgwyr gan raddedigion Rhydgrawnt o dras du neu o ethnigrwydd lleiafrifol, yn ogystal â nifer o sesiynau wedi eu teilwra drwy gydol y flwyddyn. Ers ei lansio yn 2012, mae Target Oxbridge wedi helpu 81 o fyfyrwyr i sicrhau cynigion Rhydgrawnt. Am fwy o wybodaeth (gan gynnwys arlwy digidol amgen) gweler gwefan Target Oxbridge.

Oxford Pathways - Blynyddoedd 10-11 

Rydym yn gweithio yn rheolaidd gyda cholegau eraill yn Rhydychen i gefnogi Rhaglen Pathways. Mae Oxford Pathways ar gyfer myfyrwyr sy'n mynychu ysgolion gwladol annethol ar draws y DU sydd ag ychydig, os o gwbl, o hanes o yrru dysgwyr i Rydychen.

Drwy Oxford Pathways mae dysgwyr yn cael y cyfle i ymweld â Rhydychen, i ddarganfod y brifysgol a gweld sut fath o beth yw astudio yma. Mae Diwrnodau Blasu yn cynnig cyflwyniad i addysg uwch a chyllid myfyrwyr, sesiynau rhyngweithiol gyda myfyrwyr presennol, cinio mewn neuadd fwyta coleg a chymryd rhan mewn gweithgaredd academaidd i ddisgyblion sydd yn abl yn academaidd. Mae'r un disgyblion yn cael eu gwahodd yn ôl i Rydychen ym mlwyddyn 11 ar gyfer Diwrnodau Archwilio Opsiynau sydd yn canolbwyntio ar bwysigrwydd canlyniadau TGAU a dewisiadau ôl-16. Telir costau teithio bysiau gan Golegau Oxford Cymru.

Gwneir geisiadau gan ysgolion yn hytrach nag unigolion, gyda chroeso i bob ysgol i ddod â hyd at 10 disgybl. Holwch eich athrawon am y cyfle hwn. Am fwy o wybodaeth ewich i wefan Pathways. #OxPathways

Rhaglen Merched mewn Gwyddoniaeth - Blwyddyn 12 

Mae Colegau yr Iesu, y Drindod a Wadham yn Rhydychen yn croesawu 100 o ferched mewn gwyddoniaeth o ysgolion gwladol yng Nghymru, Llundain, Gogledd-Ddwyrain Lloegr a Rhydychen. Mae'r digwyddiad rhannol-ddydd, rhannol-breswyl yn cynnig cyfle i archwilio amrywiaeth o destunau gwyddonol: o fywyd ar blanedau eraill i fiobeirianneg. Gall y sawl sy'n mynychu hefyd fynychu gweithdai sgiliau a phroses mynediad megis ysgrifennu datganiad personol, sut i ddarllen cyfnodolyn academaidd a pharatoadau at brofion mynediad. Mae'r digwyddiad fel arfer yn rhedeg o tua canol Mawrth i ddiwedd Mehefin, a gall myfyrwyr ymgeisio yn annibynnol. Darganfyddwch fwy yma.

Ysgol Haf Seren Coleg yr Iesu - Blwyddyn 12 

Digwyddiad blaenllaw Coleg yr Iesu - Ysgol Haf Seren Coleg yr Iesu - yw uchafbwynt rhaglen digwyddiadau haf Coleg yr Iesu, a chroesewir 75 o ddysgwyr blwyddyn 12 Seren am wythnos breswyl yn Rhydychen! Gweler tudalen Oxford Cymru a Rhwydwaith Seren am fwy o wybodaeth.

Yn Eich Ardal  |  Ar-lein

Ymwelwyr blwyddyn 12 ar daith o Rydychen

I Athrawon

Ysgolion Haf Athrawon

Mae Ysgol Haf Athrawon sy'n awdurdodedig gan y DPD yn gynhadledd dau-ddiwrnod am ddim ar gyfer athrawon o ysgolion gwladol a cholegau yn y DU. Yn ystod yr ysgol haf, bydd athrawon yn derbyn cefnogaeth ac arweiniad manwl am y broses ymgeisio i Rydychen, yn profi sesiynau blasu ar gyfer pynciau academaidd amrywiol, ac yn dysgu o gyfweliadau ffug. Nôd yr ysgol haf yw cefnogi athrawon i ymestyn a herio eu disgyblion mwyaf abl a darparu'r wybodaeth a chyngor orau bosibl ar broses mynediad prifysgolion cystadleuol.

Gallwch ddod o hyd i gyngor a digwyddiadau eraill ar gyfer athrawon yma

Gwobr Athrawon Ysbrydoledig 

Ers 2010, mae Prifysgol Rhydychen wedi cynnal cynllun i gydnabod athrawon ysbrydoledig o ysgolion gwladol a cholegau y DU. Mae'r cynllun gwobrwyo hwn yn cydnabod y rôl annatod y mae athrawon yn ei chwarae wrth annog disgyblion talentog yn eu hysgolion neu golegau. Pob blwyddyn mae israddedigion blwyddyn gyntaf yn Rhydychen sy'n dod o ysgolion gwladol neu golegau yn y DU sydd â hanes cyfyngedig o yrru disgyblion i Rydychen yn cael y cyfle i enwebu athro neu athrawes ysbrydoledig. Gallwch ddargranfod mwy yma.

Edrychwch ar y ffilm arbennig hon ble mae myfyrwyr, gan gynnwys Abi o Gastell-nedd Port Talbot a Laura o Bontypŵl, yn egluro pam bod eu hathrawon wir yn ysbrydoledig. 

Ymweliadau Ysgolion i Rydychen - pob blwyddyn ysgol 

Rydym yn croesawu ymweliadau o ysgolion o fewn rhanbarthau Oxford Cymru ac yn cynnig profiad Diwrnod Blasu ar gyfer pob oedran. Gweler amserlen arferol isod. 

Amser*

Gweithgaredd

10:30 – 11:00

Cyrraedd/cyfarchiad yn y coleg

11:00 – 12:15

Sesiwn Cwestiwn ac Ateb rhyngweithiol a thaith Coleg/dinas (gyda Llysgenhadon Myfyrwyr pan fo'n bosibl)

12:15 – 13:15

Cinio

13:15 – 14:15

Sesiwn blasu/darlith addas-i-oedran

14:15 – 14:45

Sesiwn ymgeisio/arweiniad Cyfweliadau/sgiliau

14:45 – 15:00

Unrhyw gwestiynau eraill/ymadael

*gall amseroedd amrywio yn dibynnu ar y Coleg croeso a maint y grŵp.

Bydd gweithgareddau yn dibynnu ar y grŵp oedran a byddwn yn addasu'r diwrnod fel y bo'n briodol. Tra bo'r mwyafrif o'n gwaith estyn allan wedi ei anelu at ddisgyblion hŷn, mae Diwrnod Blasu hefyd yn addas ar gyfer disgyblion oedran cynradd. Y nôd yw i helpu dysgwyr iau i ddeall addysg prifysgol wrth fagu hyder a'u hannog i anelu'n uchel beth bynnag fo'u dewisiadau yn y dyfodol.

Gall Oxford Cymru hefyd gynnig neu gynnal gweithgareddau ar Oxplore (platfform estyn allan digidol y Brifysgol ar gyfer dysgwyr), cyllid myfyrwyr a thestunau mwy cyffredinol, megis ymchwilio y tu hwnt i gwricwlwm yr ysgol, ysgrifennu traethodau a gwneud cyflwyniadau yn ogystal â rhoi cyngor ar geisiadau prifysgol i rieni a gwarchodwyr.

Yn Eich Ardal  |  Ar-lein

I Deuluoedd

Diwrnodau Agored - Blynyddoedd 11-13 

Efallai yr hoffech hebrwng eich plentyn ar ymweliad i Ddiwrnod Agored. Bydd pob coleg ac adran yn agored i ddarpar ymgeiswyr ar Ddiwrnodau Agored Prifysgol Rhydychen. Bydd Diwrnodau Agored 2020 ar ddydd Mercher 1 Gorffenaf, dydd Iau 2 Gorffennaf a dydd Gwener 18 Medi.

Ymweld â Rhydychen 

Os na allwch ddod i Ddiwrnod Agored neu ddigwyddiad estyn allan yn Rhydychen, dylech ddod draw i'n gweld i weld drosoch eich hunain sut fath o le yw Rhydychen mewn gwirionedd. Cysylltwch â ni i drefnu diwrnod ac amser addas i un o ein colegau Oxford Cymru eich croesawu gyda thaith o gwmpas y coleg ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Wrth gwrs mae croeso i chi ymweld â ni yn annibynnol ond buasem yn awgrymu i chi gysylltu ag unrhyw golegau yr hoffech ymweld â hwy o flaen llaw i weld amseroedd agor.

Yn Eich Ardal  | Ar-lein  |  Hafan