
Amdanom Ni
Er bod colegau Prifysgol Rhydychen wedi bod yn gweithio gydag ysgolion ar draws Cymru am flynyddoedd lawer, mae myfyrwyr o Gymru yn parhau i gael eu tangynrychioli yn Rhydychen ac rydym am i hyn newid. Mae hi'n amser rhoi cynnig ar ddull newydd!
Pwy ydym ni?
Mae Coleg yr Iesu, Coleg Newydd a Coleg St Catherine wedi ymuno â'i gilydd i lansio Oxford Cymru, ein rhaglen estyn allan cymunedol i Gymru! Wrth weithio gyda'i gilydd, bydd y colegau hyn yn sicrhau bod Prifysgol Rhydychen am y tro cyntaf yn medru cynnig rhaglen estyn allan cydlynol sydd yn gyfrifol am Gymru gyfan.
Mae ein amcanion yn uchelgeisiol:
- Cynnig cefnogaeth estyn allan cyson ar hyd HOLL ranbarthau Cymru ar gyfer dysgwyr, athrawon a darpar ymgeiswyr prifysgol o grwpiau sydd wedi eu tangynrychioli.
- Annog ac ysbrydoli myfyrwyr o Gymru o bob oed a phob cefndir i fwynhau eu dysgu, bod yn ddysgwyr annibynnol, i gael yr hyder i fod yn hwy eu hunain ac i fod yn uchelgeisiol am eu dyfodol.
- Gwella y cyfleoedd addysgol i bob dysgwr.
- Helpu'r rheiny yng Nghymru sy'n anelu at brifysgolion sydd ar y brig i gyflawni eu nôd.
- Cynyddu nifer y myfyrwyr o grwpiau sydd wedi eu tangynrychioli ar hyn o bryd o 15% o dderbyniad myfyrwyr israddedig y DU i 25% o dderbyniad myfyrwyr israddedig y DU erbyn 2023.
- Bod Prifysgol Rhydychen yn nôd realistig i unrhywun gyda thalent ac ymroddiad academaidd.
Am fwy o wybodaeth am yr ymchwil sydd wrth wraidd yr ymrwymiadau hyn, ewch i Gynllun 'Access and Participation' Prifysgol Rhydychen.

Gweithio gyda'n gilydd
Dros y blynyddoedd i ddod bydd Oxford Cymru yn gweithio gydag ysgolion a cholegau yn yr ardaloedd canlynol: Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen, Bro Morgannwg, Wrecsam.
Yn ogystal â gweithio gyda Rhwydwaith Seren ar hyd a lled Cymru, mae Oxford Cymru hefyd yn datblygu partneriaethau gydag awdurdodau lleol, ymddiriedolaethau aml-academi a mudiadau mudoledd cymdeithasol.
Bydd y colegau hefyd yn parhau â'u gwaith presennol mewn rhannau eraill o'r DU. Noder os nad ydych chi neu eich ysgol yn rhan o'n categorïau mynediad, mae digon o gyngor a chefnogaeth ar gael ar eich cyfer yma ac ar wefan y Brifysgol. Mae croeso i bob ysgol, chweched ddosbarth a choleg addysg bellach dros Gymru i gysylltu ag Oxford Cymru am wybodaeth a chyngor ar y broses fynediad a gwaith estyn allan. Mae manylion am golegau cyswllt ar gyfer rhannau eraill o'r DU ar gael ar wefan y Brifysgol.
Effaith
Nid ydym yn disgwyl gwneud newidiadau radical dros nos, ond gobeithiwn adeiladu partneriaethau hirdymor dros y rhabarth a fydd yn elwa'r gymuned ysgolion yn ogystal â'n Prifysgol.
Darganfyddwch fwy am waith estyn allan ym Mhrifysgol Rhydychen.
|Hafan|
