
Ar hyn o bryd, mae myfyrwyr o Gymru wedi eu tangynrychioli yn Rhydychen. Er mwyn helpu i newid hyn rydym yn lansio Oxford Cymru, rhaglen estyn allan cymunedol estynedig, sy'n cynnig cefnogaeth lleol ac wedi'i deilwra i fyfyrwyr o oedranau cymysg, eu teuluoedd a'u athrawon.
Mae tri coleg yn Rhydychen, Coleg yr Iesu, Coleg Newydd a Choleg St Catherine, wedi ymuno â'i gilydd i arwain ar a gweithredu'r rhaglen newydd, gyffrous hon. Wrth weithio gyda'i gilydd, bydd y colegau hyn yn sicrhau bod Prifysgol Rhydychen, am y tro cyntaf, yn medru cynnig rhaglen estyn allan cydlynol sy'n gofalu am Gymru benbaladr. Mae gennym amcanion uchelgeisiol:
Cynnig cefnogaeth estyn allan cyson ar hyd HOLL ranbarthau Cymru ar gyfer dysgwyr, athrawon a darpar ymgeiswyr prifysgol o grwpiau sydd wedi eu tangynrychioli.
Annog ac ysbrydoli myfyrwyr o Gymru o bob oed a phob cefndir i fwynhau eu dysgu, i fod yn ddysgwyr annibynnol, i gael yr hyder i fod yn hwy eu hunain ac i fod yn uchelgeisiol am eu dyfodol.
Gwella y cyfleoedd addysgol i bob dysgwr.
Helpu'r rheiny yng Nghymru sy'n anelu at brifysgolion sydd ar y brig i gyflawni eu nôd.
Cynyddu nifer y myfyrwyr o grwpiau sydd wedi eu tangynrychioli ar hyn o bryd o 15% o dderbyniad myfyrwyr israddedig y DU i 25% o dderbyniad myfyrwyr israddedig y DU erbyn 2023.
Bod Prifysgol Rhydychen yn nôd realistig i unrhywun gyda thalent ac ymroddiad academaidd.
Yr Awdurdodau Lleol yw - Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen, Bro Morgannwg, Wrecsam.
Porwch y bocsys isod i ddarganfod yr hyn yr ydym yn ei wneud ar gyfer Myfyrwyr, Athrawon a Theuluoedd yn Rhydychen, yn eich Ardal ac Ar-lein.