Mae ystod eang o wybodaeth a chefnogaeth ar gael yn ddigidol.

I Ddysgwyr

Ymgeisio i Rydychen

Mae gan brif wefan y brifysgol wybodaeth a chefnogaeth helaeth ar gael os ydych chi'n dewis ymgeisio i Rydychen. Dyma ddolenau i rai tudalennau allai fod o ddiddordeb i chi:

Rhaglen Estyn Allan Digidol i Ysgolion - Blynyddoedd 10-13

Mae ein gwaith estyn allan digidol wedi cynyddu yn sylweddol ers y pandemig Covid-19 a gobeithiwn fedru parhau i ddefnyddio hyn yn y dyfodol. Rhai o'r digwyddiadau digidol a gynigir hyd hyn yw:

  • Sesiynau Gwybodaeth ac Arweiniad - cyngor ar ymgeisio i brifysgolion
  • Webinarau ysgrifennu traethawd
  • Darlithoedd academaidd

Cynigir rhai sesiynau i bawb a threfnir rhai drwy ysgolion. Gofynwch i'ch athrawon os yw eich ysgol yn cymryd rhan mewn digwyddiadau o'r fath. 

Gallwch hefyd ddarganfod detholiad o ddarlithoedd enghreifftiol o Ysgol Haf Seren Coleg yr Iesu yma. Mae'r Brifysgol wedi casglu amrywiaeth o adnoddau dysgu digidol ysbrydoledig i bob oedran - gallwch gael mynediad i'r adnoddau hynny yma.

Ysgol Haf Ar-lein Rhyngwladol Seren Coleg yr Iesu - Dysgwyr Blwyddyn 12 Seren

Ym mis Gorffennaf 2021 bydd Coleg yr Iesu, ynghŷd â phartneriaid ymddiriedoledig, yn cynnal rhaglen ar-lein bythefnos o hyd i ddysgwyr Blwyddyn 12 Seren. Bydd rhaid i ymgeiswyr ymgeisio am y rhaglen hon erbyn y 29ain Ionawr 2021. Gweler tudalen Oxford Cymru a Rhwydwaith Seren am fwy o wybodaeth.

Oxplore: Cartref Cwestiynau Mawr

Mae Oxplore yn borth digidol arloesol gan Brifysgol Rhydychen. Mae'n anelu i dynnu sylw y rheiny sydd rhwng 11 a 18 oed tuag at ddadleuon a syniadau sydd yn mynd y tu hwnt i'r hyn a drafodir yn y dosbarth. Mae cwestiynau mawr yn taclo syniadau cymhleth ar draws ystod eang o bynciau ac yn tynnu ar yr ymchwil diweddaraf a wneir yn Rhydychen. Mae Oxplore yn anelu i wireddu uchelgeisiau, annog meddwl ehangach a sbarduno chwilfrydedd deallusol.

Staircase 12

Mae Staircase 12 yn hwb o adnoddau ar-lein wedi ei ddatblygu gan Goleg y Brifysgol ar gyfer myfyrwyr sy'n anelu'n uchel yn yr ysgol ac yn ystyried ymgeisio i'r prifysgolion sydd ar y brig. Gallwch ddarganfod llwyth o adnoddau i helpu dysgwyr i ddatblygu eu diddordebau, adroddiadau llyfr gan israddedigion presennol i roi syniadau am ble i ddechrau 'darllen o gwmpas' eu pwnc, a syniadau i ymestyn dysgwyr y tu hwnt i faes llafur yr ysgol.

Yn Eich Ardal  |  Yn Rhydychen

Ar-lein- Myfyrwyr yn astudio

I Athrawon

Gwefannau Athrawon

Gall dewis ble i fynd i brifysgol fod yn benderfyniad sy'n newid bywyd, a thra bod hyn yn gyffrous, gall hefyd fod yn eithaf brawychus. Rydym yn werthfawrogol iawn o'r rôl gefnogol y mae athrawon a chynghorwyr gyrfa yn ei chwarae wrth annog myfyrwyr i ystyried eu opsiynau a gwneud dewisiadau cytbwys yn seiliedig ar wybodaeth a phrofiad.

Mae gwefannau athrawon Prifysgol Rhydychen yn anelu i ddarparu yr holl wybodaeth sydd ei angen i helpu eich dysgwyr. Hoffem eich annog i bori ein gwefan yn helaeth, ond gobeithiwn y bydd yr adnoddau yn yr adran hon yn arbennig o ddefnyddiol. Croesawn y cyfle i drafod gydag athrawon a chynghorwyr am gefnogi eich disgyblion drwy bob agwedd o ystyried ac ymgeisio i Rydychen.

'Ignite' - Rhaglen gyrfaoedd addysg am-ddim i ysgolion Rhydychen

Mae Ignite yn raglen hyder gyrfa i ysgolion a cholegau gan Wasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Rhydychen. Mae'n anelu i ddatblygu hyder a phendantrwydd dysgwyr mewn gweithgareddau academaidd, allgyrsiol, teuluol, cymdeithasol a gyrfaol yn y pen draw.

Anelir y rhaglen at ddisgyblion uwchradd (oed 11-18) a'i gyflwyno o fewn yr ysgol gan athrawon/tiwtoriaid ABCH. Mae ar gael mewn modiwlau a ellir eu defnyddio fel y bo'n briodol. 

Cylchlythyr Athrawon

Mae'r e-gylchlythyr hwn gan y Brifysgol yn cynnwys diweddaradau am ein proses derbyn myfyrwyr, digwyddiadau y gall athrawon a dysgwyr fynychu, a diweddaradau ynglŷn â'n rhaglenni mynediad ac ehangu cyfranogiad, gan gynnwys UNIQ. Mae adborth gan athrawon wedi bod yn gadarnhaol iawn, gyda nifer yn nodi eu bod yn anfon yr ebyst ymlaen i ddisgyblion sydd â diddordeb mewn ymgeisio i Rydychen.

Rhaglen Ddigidol Mynediad Ysgolion - Blynyddoedd 10-13

Mae ein gwaith estyn allan digidol wedi cynyddu'n sylweddol ers pandemig Covid-19 a gobeithiwn barhau i ddefnyddio hyn yn y dyfodol. Mae'r digwyddiadau digidol a gynigir hyd hyn yn cynnwys:

  • Sesiynau Gwybodaeth ac Arweiniad - cyngor ar ymgeisio i brifysgol
  • Webinarau ar ysgrifennu traethawd
  • Darlithoedd academaidd

Os nad ydym yn gweithio gyda'ch ysgol eto, boed hynny yn ddigidol neu wyneb-yn-wyneb, cysylltwch â thîm Oxford Cymru i ymholi sut allwn eich cefnogi.

NID YDYM yn bwriadu i raglenni ar-lein gymryd lle digwyddiadau wyneb-yn-wyneb yn yr hirdymor. Fodd bynnag, byddant yn cynnig cefnogaeth ychwanegol anghenrheidiol, i alluogi tîm Oxford Cymru i gyrraedd ystod mwy ac ehangach o ddysgwyr mewn modd mwy effeithiol a chost-effeithlon.

Diweddariadau Oxford Cymru

Mae Oxford Cymru yn defnyddio nifer o ffyrdd gwahanol i ddiweddaru ysgolion ynglŷn â gwaith estyn allan yng Nghymru, gan gynnwys ymweliadau a gweithgareddau wedi eu trefnu.

  • Cadwch lygad ar y newyddion diweddaraf am dderbyn israddedigion, diwrnodau agored a digwyddiadau estyn allan, neu derbyniwch atebion i'ch cwestiynau yn @OxOutreach.
  • Anogwch eich disgyblion i'n dilyn ar Instagram: @studyatoxford.

Yn Eich Ardal  |  Yn Rhydychen 

I Deuluoedd

Mae Oxford Cymru yn cydnabod nad oes gan bob ymgeisydd gefnogaeth rhiant, gwarchodwr neu aelod o'r teulu. Er bod yr wybodaeth yn cyfeirio at rieni a phlant, bydd yn ddefnyddiol ar gyfer unrhyw un sy'n darparu rôl gefnogol i ymgeisydd - er enghraifft, myfyriwr wedi'i (d)dieithrio neu ymgeisydd aeddfed gydag ychydig neu ddim profiad prifysgol blaenorol. Mae tîm Oxford Cymru yn croesawu ymholiadau gan y sawl sy'n rhoi arweiniad neu'n cefnogi ymgeisydd felly cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Cefnogi dewisiadau Prifysgol

Os yw eich plentyn yn astudio at eu Lefelau-A, mae'n debyg eu bod yn dechrau meddwl am eu camau nesaf yn barod. Nid yw bob amser yn hawdd i rieni wybod beth yw'r ffordd orau i'w helpu i ystyried eu opsiynau. Rydym wedi paratoi arweiniad a gwefannau i rannu cymaint o wybodaeth â phosibl am astudio ym Mhrifysgol Rhydychen - yn enwedig sut y gall eich mab neu ferch ddewis eu cwrs, ac yna gwneud y cais cryfaf posibl. Hoffem eich sicrhau bod myfyrwyr mewn dwylo diogel yn Rhydychen, felly rydym wedi darparu manylion o'r holl gefnogaeth sydd ar gael yn ystod eu amser yma ac ar ôl iddynt raddio.

Gwefan y Brifysgol

Mae llawer mwy o wybodaeth am sut fath o beth yw astudio yn Rhydychen a'r broses ymgeisio i brifysgol ar ein gwefannau mynediad a derbyn israddedigion. Mae hyn yn cynnwys teithiau 360* o golegau Rhydychen a fideos o israddedigion a myfyrwyr diweddaraf UNIQ.

Yn Eich Ardal  |  Yn Rhydychen  |  Hafan