Students at a college
Students at a college

I Fyfyrwyr

Os ydych yn nesu at ddiwedd eich cyfnod yn yr ysgol ac yn meddwl am eich camau nesaf, mae ein rhaglenni estyn allan yn cynnig cyfle i chi brofi bywyd fel myfyriwr prifysgol, yn ogystal â chynnig cyngor arbenigol ar y broses fynediad i brifysgolion. Credwn bod gradd sydd yn agor drysau yn medru newid bywyd nifer o bobl, ond rydym hefyd yn ymwybodol bod penderfynu os a ble i fynd i brifysgol ddim yn hawdd, yn enwedig os nad ydych yn adnabod unrhyw un sydd wedi bod, neu all ddweud wrthoch sut beth ydyw. 

Gall Oxford Cymru gynnig yr wybodaeth a'r gefnogaeth sydd ei angen arnoch i wneud penderfyniadau cytbwys am eich dyfodol. Rydym yn gweithio'n bennaf gyda dysgwyr rhwng 16-18 oed, yn cynnig gwybodaeth am broses mynediad prifysgolion, eich helpu i ddarganfod beth sydd gan Rhydychen i'w gynnig a datblygu'r sgiliau sy'n angenrheidiol i wneud ceisiadau llwyddiannus i Rydychen. Rydym hefyd yn gweithio gyda dysgwyr rhwng 11-16 oed, yn cynnig yr wybodaeth sydd ei angen arnoch i wneud penderbyniadau cytbwys am ddewisiadau TGAU a Lefel-A.

Mae ein gwaith gyda disgyblion oedran cynradd yn cynyddu hefyd. Nid yn unig i'w cyflwyno i brifysgolion fel Rhydychen ond hefyd i fagu hyder ac annog dysgwyr iau i anelu'n uchel beth bynnag fo eu dewisiadau yn y dyfodol.

Efallai eich bod yn ymgeisio fel ymgeisydd aeddfed gyda gofynion, systemau cefnogaeth ac ystyriaethau gwahanol wrth ymgeisio i brifysgol. Rydym yn awyddus i gefnogi a chlywed gan ymgeiswyr israddedig aeddfed sydd heb brofiad prifysgol blaenorol - cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes arnoch angen mwy o wybodaeth!

Mae Oxford Cymru yn cydnabod bod rhai myfyrwyr yn astudio heb gefnogaeth rhiant neu warchodwr a gallwn gynnig rhaglen gefnogaeth ar gyfer israddedigion sydd wedi eu dieithrio o'u teuluoedd. Mae tîm Oxford Cymru yn croesawu ymholiadau gan ymgeiswyr sydd wedi eu dieithrio felly cofiwch gysylltu â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau. Gallwch ddarganfod mwy am y gefnogaeth a gynigir i fyfyrwyr wedi eu dieithrio yma.

Darganfyddwch fwy isod am y gweithgareddau sydd gennym yn eich ardal, yn Rhydychen ac ar-lein

Disgyblion Cynradd Cymraeg yn ymweld â Choleg yr Iesu yn disgwyl i gyfarfod EF Tywysog Cymru!