I Ddysgwyr

Rhaglen Mynediad Ysgolion - pob blwyddyn ysgol

Mae tîm Oxford Cymru yn ymweld ag ysgolion gwladol drwy gydol y flwyddyn academaidd i ddarparu ystod o weithgareddau ar gyfer myfyrwyr o oedrannau gwahanol: o gyngor ar ddewisiadau TGAU a Lefel-A i geisiadau prifysgol. Cynhelir y digwyddiadau gan ysgolion ac maent yn aml yn agored i ddisgyblion o ysgolion lleol i fynychu. Gofynwch i'ch athrawon os yw eich ysgol yn cymryd rhan mewn digwyddiadau fel hyn.

Cystadleuthau i fyfyrwyr

  • Mae Coleg yr Iesu yn trefnu Cystadleuaeth Traethawd blynyddol mewn cydweithrediad ag Oxplore. Mae'r gystadleuaeth hon ar gyfer disgyblion ysgolion gwladol yng Nghymru sydd ym mlynyddoedd 8-11. Gallwch ddarganfod mwy yma.

Ffeiriau Addysg Uwch

Rydym yn mynychu ffeiriau UCAS yng Nghymru yn gyson. Rydym yn edrych ymlaen i siarad gyda darpar ymgeiswyr am ymgeisio i Rydychen ac i brifysgol yn gyffredinol. Ewch i wefan UCAS am ddiweddariadau am ddigwyddiadau'r dyfodol.

Cynadleddau Myfyrwyr Rhydgrawnt (Blwyddyn 12)

Mae'r digwyddiadau hyn wedi eu anelu at ddysgwyr Blwyddyn 12 sydd yn astudio at eu Lefel A (neu debyg) ac yn dechrau ystyried eu opsiynau ar gyfer astudio y tu hwnt i'r chweched ddosbarth. Mae'r cynadleddau wedi eu dylunio fel Diwrnodau Agored ar daith, ac maent yn dod â staff derbyn profiadol, arbenigwyr pwnc a myfyrwyr presennol i leoliadau ar draws y DU. Mae'r digwyddiadau hyn yn cynnig yr wybodaeth ddiweddaraf am ein cyrsiau, yn amlinellu'r broses ymgeisio yn glir ac yn darparu'r cyfle i fyfyrwyr glywed yn uniongyrchol sut mae ein israddedigion presennol yn gweld bywyd yn Rhydychen a Chaergrawnt. Ewch yma am fwy o fanylion am y digwyddiadau hyn. Gofynwch i'ch athrawon am fynychu un o'r digwyddiadau hyn.

Mae Oxford Cymru ar hyn o bryd yn adolygu y gefnogaeth y mae'n ei gynnig i fyfyrwyr ac yn fuan hoffem estyn y cynnig i gynnwys digwyddiad ar gyfer y sawl sydd â chynnig gan Rhydychen a'u rhieni yng Nghymru - fel y gallant gyfarfod ei gilydd, holi cwestiynau am israddedigion Rhydychen a gwneud y mwyaf o'r gefnogaeth a gynigir gan y brifysgol. Bydd mwy o fanylion i ddilyn yn fuan.

Yn Rhydychen  |  Ar-lein

Ffair UCAS 2019 - Caerfyrddin

I Athrawon

Rhaglen Mynediad Ysgolion

Rydym yn ymweld â nifer fawr o ysgolion gwladol drwy gydol y flwyddyn ac yn cynnal sesiynau i flynyddoedd ysgol gwahanol ar amrywiaeth o destunau. Mae rhai sesiynau am brifysgol yn gyffredinol, tra bo eraill yn canolbwyntio ar Brifysgol Rhydychen, er enghraifft:

Ar gyfer blynyddoedd 12 a 13

  • Gwneud Cais Cystadleuol i Brifysgol, Rhydychen a'r Broses Ymgeisio
  • Gweithdy Datganiad Personol
  • Gweithdy Prawf Mynediad
  • Gweithdy Cyfweliadau (perthnasol i ymgeiswyr Rhydgrawnt)
  • Cefnogaeth ar gyfer y sawl sydd wedi derbyn Cynnig i Rydychen

Ar gyfer blynyddoedd 9, 10 ac 11

  • Prifysgol a Dewisiadau'r Dyfodol. TGAU, Lefel-A a sut maent yn berthnasol i gyrsiau prifysgol
  • Pam Prifysgol? Pam Rhydychen? Pwrpas prifysgol, gwyrdroi mythau, y gost, a chyflwyniad byr i Grŵp Russell a Phrifysgol Rhydychen

Ar gyfer blynyddoedd 5, 6, 7, 8, 9 a 10

  • Egluro Addysg Uwch: Darganfod prifysgol a gweld sut fath o beth yw astudio yno.
  • Gweithdai Oxplore: sesiynau rhyngweithiol gyda chartref Cwestiynau Mawr Prifysgol Rhydychen!

Rhaglen 'Catalyst'

Mae Coleg St Catherine yn gobeithio sefydlu cyswllt gyda grŵp o ysgolion yng Nghymru fel rhan o'u Rhaglen 'Catalyst'. Mae Rhaglen 'Catalyst' yn bartneriaeth cyswllt cyson a pharhaus sydd yn cynnig cefnogaeth wedi'i deilwra i ddisgyblion ar nifer o adegau yn ystod eu hamser yn yr ysgol, yn ogystal â chyfle i ymweld â Rhydychen. Mae'n bwysig nodi bod llwyddiant y rhaglen yn ddibynnol ar gefnogaeth helaeth gan athrawon, ac elfen allweddol o'r rhaglen yw Cynhadledd Flynyddol i Athrawon a gynhelir yn St Catherine's pob mis Medi.

Elfen allweddol arall o'r rhaglen yw ein bod wedi ymgymryd â model newydd ble rydym yn gweithio gyda rhwydwaith o nifer o ysgolion a leolir yn agos at ei gilydd. Mae'r dull hwn o weithredu yn caniatàu gwell defnydd o adnoddau ac amser wrth i ysgolion gymryd eu tro i groesawu disgyblion o ysgolion eraill ar gyfer pob digwyddiad. Os oes gan eich ysgol ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y rhaglen neu bod angen mwy o wybodaeth arnoch, cysylltwch â ni ar [email protected]

Diwrnodau Blasu 

Gallwn hefyd gynnig darlithoedd blasu academaidd addas-i-oedran a gweithdai arweiniad fel y gall eich dysgwyr gael profiad o ddysgu academaidd mewn dull prifysgol ynghŷd â datgblygu sgiliau neu gyngor ac arweiniad am y broses ymgeisio. Gellir cynnal ein Diwrnodau Blasu yn Rhydychen neu yn eich ardal, gyda'r rhaglen sydd wedi'i leoli yn Rhydychen yn cynnwys taith o'r ddinas a'r coleg gyda chinio yn gynwysiedig.

Hybiau Ysgolion a Phencampwyr Athrawon

Er mwyn adeiladu ar y gefnogaeth mwy hir-dymor ac â ffocws gymunedol a gynigwn i ddarpar ymgeiswyr, rydym wedi ymuno ag ysgolion i weithredu system 'hwb ysgolion'. Mae hybiau ysgolion yn gweithredu fel pwyntiau canolog ble allwn ddarparu sesiynau academaidd a gweithdai arweiniad i ddisgyblion o amryw o ysgolion. Hyd hyn, rydym wedi sefydlu hybiau mewn dwy ardal yn Ne Cymru: Blaenau Gwent a Chasnewydd. Anelwn i ymestyn y system i ardaloedd eraill yng Nghymru yn fuan. Yn y flwyddyn academaidd 2020/2021, byddwn yn datblygu Cynllun Pencampwyr Athrawon. Bydd y cynllun yn ceisio ymgysylltu a gweithio law yn llaw ag athrawon ysgolion gwladol ar hyd Cymru ar sail cyson a pharhaus. Hoffem gynnig cefnogaeth a darparu athrawon â'r wybodaeth angenrheidiol i helpu eu disgyblion i wneud ceisiadau cystadleuol i Rydychen. Bydd manylion am y cynllun yn cael eu rhyddhau yn fuan.

Sesiynau i Athrawon/Cynghorwyr Gyrfa

Mae Coleg yr Iesu hefyd yn cynnig cefnogaeth i asiantaethau allanol megis y National Association for Able Children in Education (NACE) wrth gynnal cynadleddau a chyflwyno webinarau sy'n cynnig cyngor ac arweiniad ar gyfer athrawon ac ysgolion ar ddatblygu sgiliau ar gyfer prifysgolion. Gall aelodau NACE ddarganfod mwy am ddigwyddiadau NACE yma. Am wybodaeth ar ddigwyddiadau NACE sydd yn cael eu cefnogi gan Oxford Cymru, cysylltwch â Chymrawd Mynediad Coleg yr Iesu.

Rydym hefyd yn mynychu digwyddiadau ar draws Cymru sydd â'r nôd o gynghori athrawon sy'n cefnogi ceisiadau prifysgol, er enghraifft, digwyddiadau Rhwydwaith Seren a Chynhadledd Athrawon a Chynghorwyr Prifysgol Cymru.


Yn Rhydychen | Ar-lein

I Deuluoedd

Cefnogi Addysg Uwch

Mae Oxford Cymru yn aml yn mynychu sgyrsiau i rieni a gwarchodwyr a gynhelir gan ysgolion gwladol fel rhan o'n rhaglen mynediad ysgolion. Rydym yn hapus i drafod sut y gallwch gefnogi eich plentyn i wneud cais cystadleuol i brifysgolion fel Rhydychen, yn ogystal ag ateb unrhyw gwestiynau penodol sydd gennych. Bydd ysgolion yn hysbysebu unrhyw sgyrsiau rhieni a gwarchodwyr a gynhelir ganddynt, ond os oes gennych unrhyw gwestiynau penodol am Rydychen, mae croeso i chi gysylltu.
Os ydych yn cefnogi/rhoi arweiniad i ymgeisydd sydd heb gefnogaeth teuluol (e.e. dysgwr wedi ei (d)dieithio neu ymgeisydd aeddfed) cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Yn Rhydychen  |  Ar-lein  |  Hafan