Ein Myfyrwyr
Nid ydych chi'n anghofio eich gwreiddiau pan rydych yn dod i Rydychen i astudio... mae gennym gymdeithas Gymraeg ffyniannus yma! Mae myfyrwyr Cymraeg yn ymuno â ni o Gymru benbaladr bob blwyddyn, gydag amrediad o ddiddordebau academaidd.
Mae ein myfyrwyr yn treulio eu hamser nid yn unig wrth weithio'n galed yn eu hastudiaethau ac yn mwynhau yr holl gyfleon cymdeithasol a diwylliannol a gynigir gan Rhydychen, ond hefyd wrth gefnogi gweithgareddau estyn allan ar gyfer y Brifysgol. Os ydych yn ymweld â Rhydychen gyda'ch ysgol neu yn annibynnol, fe wnawn ein gorau i drefnu bod myfyrwyr ar gael fel y gallwch eu holi am sut fath o beth yw bod yn fyfyriwr yn Rhydychen!
Dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf byddwch yn darganfod mwy am ein myfyrwyr wrth i ni boblogi'r dudalen hon gyda ffilmiau, lluniau ac ymddangosiadau gan israddedigion Cymraeg presennol Prifysgol Rhydychen.
Dyma ein myfyrwyr Carys a Lois yn trafod eu profiadau.
Efallai bod gennych ddiddordeb mewn clywed gan un o gymdeithasau hynaf Rhydychen: Cymdeithas Dafydd ap Gwilym - Cymdeithas Gymraeg Prifysgol Rhydychen. Gweler eu ffilm fer isod i ddargranfod mwy am brofiad myfyrwyr Cymraeg yn Rhydychen.
|Hafan|